top of page

Biosffer UNESCO Cymru

Ti Bia'r Biosffer Main.png

Ti Bia'r Biosffer

Pobl ifanc Dyffryn Dyfi yn dathlu pobl, diwylliant a mentergarwch eu cynefin.

Bydd prosiect Ti Bia’r Biosffer yn adnabod cyfleoedd, a manteisio arnynt ar ffurf cyfres o ffilmiau byr sy’n dangos mentergarwch ar ei orau.

Aberystwyth a dyffryn ehangach Dyfi

Mae Biosffer Dyfi UNESCO yn ysbrydoli pobl a sefydliadau i gydweithio wrth greu dyfodol cynaliadwy y gallwn oll fod yn falch ohono. Mae'n cysylltu pobl â natur a’n treftadaeth ddiwylliannol tra’n cryfhau'r economi lleol.

Mae’r tirweddau yn y rhan yma o ganolbarth Cymru’n ymestyn o weunydd a mawnogydd yr ucheldir i lawr i aber llydan a thwyni tywod a thraethau, gan gynnwys coetir llydanddail, coedwig gonwydd, tir amaeth, morfa a mawnog lawr gwlad helaeth, sy’n golygu ei fod yn hafan i fywyd gwyllt.

Mae dyfrgwn yn nofio yn yr afonydd, daw gweilch y pysgod i nythu, mae barcutiaid coch yn hawdd eu gweld ac mae podiau o ddolffiniaid yn ymweld â’r traethau’n rheolaidd; ceir gwarchodfeydd natur sy’n berffaith ar gyfer gwylio adar gan gynnwys prosiect Gweilch y Pysgod Dyfi a gwarchodfa RSPB.

Man perffaith ar gyfer gwyliau yw canolbarth Cymru gyda’i lwybrau cerdded hardd fel Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Glyndŵr a digon i’r rheini sy’n hoffi anturio fel beicio mynydd a syrffio.

 

 

 

Ceir llawer o wahanol fathau o leoedd i aros, mewn amrywiaeth o leoliadau, fel tref brifysgol fywiog Aberystwyth, tref farchnad Machynlleth neu draethau gwyliau’r Borth ac Aberdyfi.

the river Dyfi
Aberdyfi
geese on the Dyfi
Moel y Llyn Cairn
Machynlleth Dyfi Bridge
Starlings - Aberystwyth pier

Mae'r cymunedau dwyieithog yn falch o statws Biosffer Dyfi sydd wedi'i rhoi gan UNESCO yn 2009.

Gwarchodfa Biosffer UNESCO

Mae statws Gwarchodfa Biosffer UNESCO yn cynnig cydnabyddiaeth a chyfle i’r ardal yn hytrach na chyfyngiadau, oherwydd mai gwirfoddol yn hytrach na statudol yw’r dynodiad. Mae pobl, busnesau a sefydliadau’n manteisio arno drwy gymryd rhan. Nid oes unrhyw gyllid gan y Bartneriaeth gydlynol ei hun ond gall partneriaid weithredu yn ei enw. Weithiau maent yn dod ag adnoddau newydd i’r ardal megis cyllid ac arbenigedd.

Datblygu Cynaliadwy
Horse logging

Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn edrych yn lleol ar sut gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cydnerth gael eu seilio ar amgylcheddau iach.

Addysg ac Ymchwil
Aberystwyth MSc students

Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn edrych yn lleol ar sut gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cydnerth gael eu seilio ar amgylcheddau iach.

Bio_New_Map_web.jpg

Peintiad o Biosffer Dyfi

bottom of page