top of page

Pobl ifanc

Dyma gynrychiolydd ieuenctid newydd y Biosffer, Joe Wilkins. Joe fydd y cyswllt ar gyfer pobl ifanc sy'n dymuno ymgysylltu â'r Biosffer. Bydd hefyd yn cynrychioli Biosffer Dyfi yn Rhwydwaith Ieuenctid Biosfferau Ynysoedd Prydain, gan weithio gyda chynrychiolwyr ieuenctid eraill i wella ymgysylltiad ieuenctid yn y gwaith biosfferau ehangach.

Mae Joe Wilkins (ef/ei) yn ecolegydd ac ymgyrchydd natur sydd â chefndir mewn ecoleg a bioleg amgylcheddol. Mae'n angerddol am sicrhau mwy o ymgysylltiad a thegwch mewn cadwraeth. Mae wedi ennill cryn brofiad o weithio ym maes ymgysylltu, addysg ac ymgyrchu ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae'n gyffrous ei ddefnyddio i gefnogi a grymuso pobl ifanc ar draws Biosffer Dyfi. Siaradwr Cymraeg iaith gyntaf ac yn Gardi balch, mae'n mwynhau archwilio'r cysylltiadau rhwng diwylliant lleol a natur a bydd bob amser yn hapus i siarad a rhannu straeon dros baned. Pan nad oes ganddo baned neu wrth ei ddesg, fe welwch ef yn agos, ar, neu yn y dŵr, lle mae'n dweud ei fod yn teimlo fwyaf gartref.

Joe Wilkins with dog.jpg

Meddai Joe, "I mi, mae ymgysylltu â phobl ifanc mewn cadwraeth a llywodraethu nid yn unig yn fater o greu arweinwyr y dyfodol, ond mae hefyd yn ymwneud â rhoi cyfle iddynt fod yn arweinwyr heddiw. Sut gallwn ni, fel pobl ifanc, fynd ati i lunio polisïau ac ymddygiadau nawr? Sut allwn ni ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i wneud penderfyniadau i wella pethau heddiw yn hytrach na chael ein 'gadael i drwsio pethau' ar ryw adeg yn y dyfodol?"

Os hoffech chi sgwrsio â Joe, anfonwch e-bost ato ar wjwildlife@gmail.com.

Ffermwyr Ifanc

n 2024, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri fe wnaethom gefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc lleol i wneud fideos am eu gwaith yn y Biosffer. Dyma ddau ohonyn nhw, gan glybiau Dinas Mawddwy a Bro Ddyfi.​

Ti Bia'r Biosffer

Ti Bia'r Biosffer oedd enw prosiect 2021 a ysgogodd entrepreneuriaeth o fewn Biosffer Dyfi drwy hwyluso datblygiad sgiliau a syniadau busnes perthnasol i’r ardal. Arweiniwyd y brosiect gan Menter a Busnes gyda cyllid Cynnal y Cardi.

Cynhyrchodd y brosiect gyfres o fideos byr yn cyflwyno busnesau'r ardal, gan gynnwys Llaeth Teulu Jenkins Milk, Ty Cemaes, Heartwood Saunas, EXEO Energy, Free Range Designs, Atherton Bikes a Dyfi Tannery.​​

bottom of page