top of page

Biosffer UNESCO Cymru

Bywyd Gwyllt

Mae Biosffer Dyfi’n gartref i lawer o adar mudol fel gweilch y pysgod, y pibydd coesgoch, gwyddau talcenwyn a theloriaid y coed. Ceir llawer o warchodfeydd yn y Biosffer gan gynnwys gwarchodfa RSPB a Phrosiect Gweilch Dyfi

Croeso i Fiosffer Dyfi

Bio_New_Map_web.jpg
Aberystwyth a dyffryn ehangach Dyfi

Mae Biosffer Dyfi yn cynnwys holl ddalgylch afon Dyfi ac yn ymestyn ar hyd arfordir Bae Ceredigion mor belled â Thywyn yn y gogledd ac Aberystwyth yn y de.

 

Mae’n ardal wledig yn bennaf lle mae ffermio, pysgota a thwristiaeth yn bwysig, tra bod y gwarchodfeydd natur o amgylch aber Afon Dyfi o arwyddocâd cenedlaethol. Mae ganddi ddiwylliant dwyieithog cyfoethog, o chwedlau Cymreig i ynni adnewyddadwy a ffermio cynaliadwy.

​Mae'r cymunedau dwyieithog yn falch o statws Biosffer Dyfi sydd wedi'i rhoi gan UNESCO yn 2009.

006_AberystwythPromenade.JPG
Rhan o UNESCO yng Nghymru


Yn ogystal â Biosffer Dyfi, mae gan Gymru bedwar Safle Treftadaeth y Byd (Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd, Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte, Tirlun Diwydiannol Blaenavon a Tirlun Llechi Gogledd
Orllewin Cymru) a dau Geoparc Byd-eang (Geomôn a Fforest Fawr). Gallwch weld rhestr lawn o safleoedd UNESCO yn y DU yma.


Ni yw’r unig Warchodfa Biosffer yng Nghymru, ond mae’n un o saith ar draws y DU, a thros 700 ar draws y byd. Mae’n ddynodiad gwirfoddol sy’n rhoi cydnabyddiaeth fyd-eang i’r ardal am ei gwerth amgylcheddol a diwylliannol.

Nod byd-eang UNESCO yw adeiladu heddwch parhaol trwy ‘undod deallusol a moesol dynolryw’, dibynnu ar nwyddau cyffredin addysg, diwylliant, gwyddoniaeth a gwybodaeth. Rydym yn falch o fod yn rhan ohono.

geese on the Dyfi
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
  • Rydym yn cysylltu pobl â natur a threftadaeth ddiwylliannol, er enghraifft trwy bresgripsiynu cymdeithasol a phrosiectau celf

  • Rydym yn datblygu cyfleoedd i wneud yr economi leol yn fwy gwydn, er enghraifft cryfhau rhwydweithiau masnachu bwyd lleol

  • Rydym yn ysbrydoli, galluogi - a hefyd yn darparu - atebion lleol creadigol i heriau byd-eang, er enghraifft gweithio gydag Eco-Sgolion i helpu pobl ifanc i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt

  • Rydym yn dathlu ac yn cydlynu gweithredoedd amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys ffermio, twristiaeth, addysg a’r celfyddydau

  • Rydym yn creu cysylltiadau ac yn meithrin dealltwriaeth; annog pobl â phrofiadau ac arbenigedd gwahanol i gydweithio mewn ffyrdd newydd. Mae ein Partneriaeth yn cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau bywyd gwyllt, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, yr undebau ffermio, busnesau a grwpiau gwirfoddol.

bottom of page