top of page

Addysg

Mae Biosffer Dyfi yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc sy'n byw yn yr ardal, gyda grwpiau sy'n ymweld ac o bosibl gydag ysgolion ledled Cymru. Rydym am ddefnyddio achrediad UNESCO ar gyfer yr ardal arbennig hwn i greu cyfleoedd ysbrydoledig i bobl ifanc lunio’r dyfodol lle maent yn byw.

Grŵp Addysg Biosffer Dyfi -  DBEG

Mae'r grŵp hwn yn rwydwaith amrywiol o ddarparwyr addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn Biosffer Dyfi sydd yn cwrdd i rannu syniadau a datblygu adnoddau. Rydym yn hyrwyddo dysgu:

Ynghylch Biosffer Dyfi:
  • Beth yw Gwarchodfeydd Biosffer, a pham eu bod yn bwysig

  • Sut mae’r Biosffer yn gysylltiedig â sialensiau lleol a byd-eang

  • Sut mae pethau yn newid a sut y gall pobl chwarae rhan wrth siapio’r Biosffer i sicrhau amgylchfyd cynaliadwy, o safon uchel i’r dyfodol, ar lefel leol a byd-eang

 

O fewn Biosffer Dyfi:
  • Arsylwi ar esiamplau go iawn o brosesau newid dynol a chorfforol, a sut maent yn gydgysylltiedig

  • Gwneud ymholiadau arwyddocaol sy’n ymchwilio i gysyniad cynaladwyedd

  • Derbyn gyda brwdfrydedd ysbrydoliaeth yr amgylchedd naturiol a chyraeddiadau dynol y Biosffer

 

Ar gyfer Biosffer Dyfi:
  • Arsylwi ar ac ennyn diddordeb y rhai sydd ar hyn o bryd yn gweithio i gynnal y Biosffer, a’u gweledigaethau hwy i’r dyfodol

  • Adnabod y gwerthoedd a’r ymddygiad fydd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy

  • Ymchwilio i sut gallan nhw chwarae rhan wrth gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy, fel aelodau creadigol ac arloesol eu cymuned leol a byd-eang

  • Ddatblygu sgiliau y gellir eu defnyddio i siapio’r dyfodol

Cyflawni'r canlyniadau hyn


Byddwn yn:

  • Cymhwyso ystod o wahanol arddulliau dysgu, ffurfiol ac anffurfiol

  • Cynnig cyfleoedd i ysgolion, colegau, cymunedau a sefydliadau eraill gydweithio

  • Dod â gwahanol agweddau ar ddysgu neu ddisgyblaethau pwnc at ei gilydd

Hwyluso’r Broses: Grŵp Addysg Biosffer Dyfi (GABD)

 

Rhwydwaith amrywiol o ddarparwyr addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn Biosffer Dyfi yw’r GABD. Mae'r grŵp yn bodoli i gydlynu cyflwyno darpariaeth addysg effeithiol o fewn cyd-destun Biosffer.

I gael rhagor o wybodaeth am Addysg yn y Biosffer cysylltwch â Jane Powell drwy ein ffurflen wefan.

plascrug floor maps 2024.jpg
Dyfi Biosphere Education Group
plastic waste fish web.jpg
bottom of page