top of page

Prosiect Datblygu busnes ac ieuenctid

Mae partneriad Biosffer Dyfi yn gweithio gyda busnesau a chymunedau lleol i adeiladu rhwydweithiau a hybu incwm mewn ffordd gynaliadwy. Elfen arall o’r prosiect yw ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i archwilio’r cyfleoedd unigryw y mae Biosffer Dyfi yn eu cynnig. 

Addysg

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi ennill gwobr UNESCO wedi’i seilio’n rhannol ar ei gwaith gyda Biosffer Dyfi, mae ymgynghorydd lleol, Jane Powell, wedi’i phenodi i weithio gyda’r Grŵp Addysg ac eraill – i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael pobl ifainc i gymryd rhan mewn trafodaethau am ynni, bwyd, swyddi a diwylliant yn yr ardal

Datblygu Clwstwr Bwyd

Syniad y clwstwr yw cael bwytai a chyflenwyr bwyd lleol i ddod at ei gilydd i gyd-weithio ac cyfnewid syniadau. Mae dau gyfarfod wedi cael eu cynnal hyd yn hyn. Un o brif amcanion y rhaglen yma yw hyrwyddo y defnydd o fwyd lleol cynaliadwy.

 

Cysylltwch a ni!

 

newyddion diweddara'

'Siop Ffenest' bwyd a diod Biosffer Dyfi

 

Dydd Iau 28ain o Fehefin yn y Wynnstay (Pizzeria), Machynlleth

 

  • Oes diddordeb gennych gynyddu’ch defnydd o gynnyrch lleol?

  • Beth am gydweithredu gyda busnesau eraill er mwyn tyfu busnes?

  • Sut mae statws UNESCO ‘Biosffer Dyfi’ yn berthnasol i chi?

 

 Busnesau lletygarwch - dewch i gwrdd â chyflenwyr bwyd a diod, i ddysgu, ac i drafod.

 

 Cewch alw heibio unrhyw amser rhwng 5 a 7 o'r gloch - ond bydd rhaglen o sgyrsiau fyrion ar gael rhwng 5.45 a 6.30, yn cynnwys:

  • Nerys Howells o Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn sôn am gyfle marchnata newydd 'Blas Cambrian';

  • Danny Cameron yn sôn am Dyfi Distillery;

  • Andy Rowland yn sôn am y ‘clwstwr’ o gaffis a thai bwyta sydd yn darganfod sut i ddefnyddio brand Biosffer Dyfi.

 

Hefyd, fel rhan o brosiect ‘Cymru Cyrchfan Bwyd’ a arweinir gan Lantra, bydd Nerys ar gael i drafod yn unigol gyda busnesau i’w hannog a’i helpu i brynu, gwerthu a gweini mwy o gynnyrch lleol. Gall Nerys gynnig cyngor ac awgrymiadau ar brynu’n lleol, trefnu bwydlenni, marchnata, defnydd o’r iaith Gymraeg, naws am le a gwasanaeth cwsmer. Rhaid archebu lle o flaen llaw.

 

Byddai pob croeso i chi dod a rhywun gyda chi (o'r busnes neu'r teulu) ac i archebu lluniaeth i'ch plant yn rhad ac am ddim. Os oes diddordeb gennych ddarparu'r 'goody bags' lluniaeth iach/lleol er mwyn hyrwyddo'ch busnes, yno dangoswch ddiddordeb erbyn 22 Mehefin.

 

Archebwch lle nawr!

Ti Bia'r Biosffer Main.png

Pobl ifanc Dyffryn Dyfi yn dathlu pobl, diwylliant a mentergarwch eu cynefin

Mae Menter a Busnes wedi eu comisiynu i weithio gyda phobl ifanc i arddangos Biosffer Dyfi a'i gyfleoedd entrepreneuraidd trwy ymgyrch ffilm a chyfryngau cymdeithasol.

Mae dalgylch yr afon Ddyfi wedi ei ddynodi yn ardal Biosffer gan UNESCO ers dros 10 mlynedd. Yn un o saith ardal biosffer UNESCO yn y Deyrnas Unedig, a'r unig un yng Nghymru, mae'n cynnig cyfleoedd dirifedi i bobl, cymunedau a busnesau'r rhanbarth.

Bydd prosiect Ti bia'r Biosffer yn adnabod y cyfleoedd hynny, a manteisio arnynt ar ffurf cyfres o ffilmiau byr sy'n dangos mentergarwch ar ei orau.

Pobl ifanc yr ardal fydd yn cynhyrchu'r ffilmiau, felly mae Menter a Busnes yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig a chreadigol rhwng 16 a 30 oed, sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau cyflwyno a chreu ffilmiau i ymuno â'r criw cynhyrchu. Bydd y ffilmiau yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Project Datblygu Biosffer Dyfi yn cael eu gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ar wefan Cynnal y Cardi

bottom of page