top of page

Bwyd a Diod 

Mae bwyd a diod yn bwysig ym Miosffer Dyfi. Mae ffermio, tyfu a physgota yn rhan sylweddol o’r economi ac mae llawer o fwytai, caffis a gwestai sy’n gwneud defnydd da o gynnyrch lleol, yn ogystal â marchnadoedd ffermwyr a phrosiectau bwyd cymunedol.

Mae gan y Biosffer ffrwd bwysig o brosiectau o'r enw Tyfu Dyfi sy'n hyrwyddo cadwyni cyflenwi byr a chynhyrchu agroecolegol yn yr ardal.

Rydym hefyd yn rhedeg cynllun achredu Blas Dyfi ar gyfer busnesau sy'n ymrwymo i gynhyrchu bwyd lleol ac chynaliadwy, gan ddilyn egwyddorion agroecoleg.

Blas Dyfi

Mae'r achrediad hwn ar gael i bob busnes sy'n bodloni Meini Prawf Blas Dyfi, sef:

• Mae ffermwyr a thyfwyr yn ymrwymo i ddilyn dulliau agroecolegol

• mae proseswyr yn ymrwymo i ddefnyddio cyfran uchel o gynhwysion lleol;

• disgwylir i gaffis, gwestai a thai bwyta gynnwys a hyrwyddo cynnyrch lleol, Cymreig a thymhorol.

Nid oes proses arolygu ac felly mae'n seiliedig ar ymddiriedaeth ac adborth y cyhoedd. I ymuno â'r cynllun, anfonwch Siarter Blas Dyfi wedi’i chwblhau at'i dychwelyd at coordinator@biosfferdyfi.cymru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud eich rhodd, ac yn fuan bydd gennych pdf o'r logo i'w ddefnyddio yn eich deunyddiau marchnata a bwydlenni.

Deiliaid presennol achrediad Blas Dyfi yw:

Siopau

Maeth y Meysydd, Y Ffynnon Haearn (Chalybeate St), Aberystwyth

Aberdyfi Icecream, Seaview Terrace Aberdyfi a Heol y Wig (Pier St), Aberystwyth

Bwyd Dyfi Hub ac Aber Food Surplus, Heol y Porth Tywyll (Great Darkgate St), Aberystwyth

 

Cafes

Baravin, Llys y Brenin, Aberystwyth

Y Gornel, Princes St, Aberystwyth

Little Devils Café, Terrace Rd, Aberystwyth

Marchnadoedd a gwyliau

Cynhelir marchnad Machynlleth bob dydd Mercher, gyda detholiad mawr o fwyd

Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth y dydd Sadwrn cyntaf a thrydydd o bob mis

Trefnir gwyliau bwyd yn rheolaidd.

bottom of page