top of page

Bwyd a ffermio

Bwyd yw'r hyn sy'n cysylltu cymdeithas ddynol a'r economi gyda'r byd naturiol ac felly mae cael hyn yn iawn yn allweddol i genhadaeth y Biosffer i fod yn ofod dysgu ar gyfer datblygu cynaliadwy.

 

Gan ddilyn egwyddorion agroecoleg fel y'u diffinnir gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, mae'r Biosffer wedi cynnal cyfres o brosiectau sydd wedi bod yn ymwneud â deall a datblygu'r economi bwyd lleol.

 

Drwy’r gwaith hwn mae’n adeiladu cymuned o ffermwyr, tyfwyr a sefydliadau lleol sy’n cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd newydd ymlaen. Rhestrir prosiectau blaenorol isod.

Rydym hefyd yn gweithio gyda busnesau bwyd trwr'r cynllun achredu Blas Dyfi.

Tyfu Dyfi - Tyfu'r economi bwyd lleol

 

Cynhaliwyd y prosiect hwn, a ariannwyd ar y cyd gan Gronfeydd Ffyniant Cyffredin Powys a Cheredigion, yn 2023-2024. Roedd yn bartneriaeth ecodyfi Roedd Tyfu Dyfi yn gydweithrediad rhwng Aber Food Surplus a Criw Compostio, yn ogystal â ffermwyr a thyfwyr, ac yn cefnogi cynhyrchu a dosbarthu bwyd, yn enwedig llysiau. Darllen mwy

Tyfu Dyfi - Bwyd, natur a lles

Yn rhedeg yn 2021-2023 ac wedi’i ariannu gan raglen Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru, roedd y prosiect hwn yn ymwneud â chynyddu nifer y safleoedd tyfu ar gyfer bwyd, natur a llesiant. Roedd pob gweithgaredd yn ymwneud â chynaliadwyedd, sefydlu safleoedd tyfu, cynnwys y gymuned leol, a chefnogi datblygiad cadwyni cyflenwi byr. Roedd yn gydweithrediad rhwng ecodyfi (arweinydd), Bwyd Dros Ben Aber Food SurplusMach MaethlonCanolfan Technoleg AmgenPrifysgol AberystwythFforwm Cymunedol Penparcau a Garden Organic.  Darllen mwy.

Ffermio Cymysg - Hanesion a dyfodol

 

Bu’r prosiect hwn, a oedd yn bartneriaeth rhwng ecodyfi, Environment Systems Ltd, Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2019-2020, yn astudio hanes defnydd tir yn yr ardal. Roedd yn dangos sut roedd cnydau, gan gynnwys grawnfwydydd, yn cael eu tyfu’n ehangach unwaith eto a gallant ddal i gael lle ar y ffermydd teuluol bach sy’n gonglfaen i economi a thirwedd wledig Cymru. Darllen mwy

bottom of page