top of page

Ein gweledigaeth, amcanion ac egwyddorion

Ein gweledigaeth

Bydd Biosffer Dyfi’n cael ei gydnabod a'i barchu yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei dreftadaeth a’i fywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hyderus, iach, gofalgar a dwyieithog, gyda chefnogaeth economi gref, wedi ei gwreiddio'n lleol.

2024-7 planting potatoes.jpeg
Ein hamcanion

1. Cadw a gwella’r ardal fel lle gwych i fyw, gweithio a magu plant – ac i greu mwy o gyfleoedd iddynt fedru aros yma
2. Gosod mwy o werth ar ein hamgylchedd naturiol ac ar ddiwylliant yr iaith Gymraeg
3. Cynyddu’r gweithgaredd mewn gwarchodaeth natur trwy ddulliau gwirfoddol
4. Annog trafodaeth, cytundeb a chydweithrediad rhwng pobl a sefydliadau sydd ȃ gwerthoedd a blaenoriaethau gwahanol
5. Datblygu economi fydd yn fwy hunan ddibynnol; llai dibynnol ar danwydd ffosil, gyda thyfiant a yrrir gan wybodaeth ac adnoddau lleol
6. Datblygu ardal fydd yn fwy cynaladwy; gyda’r trigolion a’r ymwelwyr yn dewis nwyddau a gynhyrchir yn lleol yn amlach, a lleihau ein heffaith ar y byd
7. Defnyddio ‘brand’ y Biosffer i hyrwyddo ansawdd cynnyrch amaethyddol a chynhyrchion eraill a phrofiadau twristiaeth
8. Sicrhau addysg a hyfforddiant mewn datblygu cynaladwy, yn ogystal ag ymchwil mewn gwyddorau naturiol a chymdeithasol sy’n cefnogi gweledigaeth y Biosffer
9. Manteisio ar gymorth a chyngor gan UNESCO a Gwarchodfeydd Biosffer eraill ar draws y byd

Ein hegwyddorion a dyheadau

Yn ogystal â’r weledigaeth ac amcanion strategol, cytunwyd ar gyfres o egwyddorion. Mae’r egwyddorion a’r dyheadau fydd yn arwain gweithgareddau cysylltiedig â Biosffer Dyfi Biosphere (“Dyma’n ffordd ni o wneud pethau – beth amdanoch chi?”) fel a ganlyn:

1. Mae pobl – eu hagweddau a’u gweithgareddau – yn ganolog i’r broses Biosffer.

2. Mae Biosffer Dyfi’n fan lle mae teimlad o ffyniant ymhlith y bobl yn cael ei wella, lle mae pobl yn derbyn y grym i gymryd rhan mewn trafodaethau, gwneud penderfyniadau a chyd-gyflawni

3. Swyddogaeth y llywodraeth a sefydliadau statudol yw hwyluso datblygu cynaliadwy er mwyn annog a galluogi pobl i gymryd cyfrifoldeb.

4. Mae Biosffer Dyfi’n ardal enghreifftiol, yn gosod meincnod ar gyfer bywyd “gwyrdd” dwyieithog.

5. Mae ein heconomi’n dod yn fwy hunan-ddibynnol ac yn llai carbon-ddwys, wedi’i seilio gan fwyaf ar ddiwylliant lleol, adnoddau, cynnyrch ac asedau amgylcheddol.

6. Mae newid adeiladol yn digwydd, bron yn anfwriadol, o ganlyniad i warchod, cryfhau a dathlu elfennau bywyd a’r byd y mae’r gymuned yn eu gwerthfawrogi ac yn dymuno’u trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

bottom of page