
Hanes Biosffer Dyfi
Dynodwyd rhan isaf Dyffryn Dyfi yn Warchodfa Biosffer am y tro cyntaf yn yr 1970au, ond roedd rheolau newydd yn yr 1990au yn golygu bod yn rhaid i safleoedd ail–ymgeisio o dan feini prawf newydd. Yn dilyn ymgynghoriad lleol helaeth, gofynnodd Partneriaeth Biosffer Dyfi i UNESCO am ail-gofrestru ardal llawer yn fwy. Cyhoeddodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, gytundeb UNESCO ym Mehefin 2009.
Cynhaliwyd Ymgynghoriad cyhoeddus yn 2007. Dyma’r Ddogfen Ymgynghorol.

Cais i UNESCO
Anfonodd Partneriaeth Biosffer Dyfi’r cais am ail-gofrestru i UNESCO ym mis Chwefror 2008. Mae’n cynnwys gwybodaeth fanwl am y dyffryn, ei dreftadaeth naturiol a diwylliannol a’i bobl. Ynddo hefyd mae awgrymiadau cychwynnol am y modd y gall y gymuned gymryd rhan a chael budd o’r cyfleoedd a gynigir. Gellwch lawrlwytho'r dogfennau isod
Crynodeb yw Rhan 1 o sut mae’r ardal yn cwrdd â meini prawf y cofrestriad ac mae’n cynnwys mapiau lleoliad a rhanbarthu
Mae Rhan 2 yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am yr ardal, yn cynnwys yr amgylchedd a’r economi leol, ynghyd â chynigion ar gyfer cydlynu’r fenter gyffrous hon.
Yr Adolygiad Cyfnodol
Yn 2019 derbyniodd y Biosffer ei adolygiad deng mlynedd cyntaf. Gwelodd yr ardal lawer o newidiadau dros y cyfnod hwn, gyda phwysau amgylcheddol newydd fel newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau ymledol a chlefydau i goetir conwydd, hyd at doriadau yng nghyllidebau'r sector cyhoeddus.
Cymeradwyodd UNESCO yr adroddiadau ym mis Medi 2021, ac o hynny ymlaen daeth pum ardal Cyngor Cymuned ychwanegol yn rhan ffurfiol o ardal Biosffer Dyfi:
-
Bryncrug a Thywyn yng Ngwynedd;
-
Carno ym Mhowys;
-
Faenor a Llanbadarn Fawr yng Ngheredigion.
Darllenwch fwy am yr Adolygiad Cyfnodol
Newid mewn llywodraethu
Yn 2024, yn dilyn cyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO, daeth y Biosffer yn gwmni cyfyngedig. Newidiodd Ecodyfi, a oedd wedi bod yn darparu'r ysgrifenyddiaeth i'r Biosffer, ei enw er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd, a buddsoddodd ei gronfeydd wrth gefn i ariannu dau aelod o staff swyddfa rhan-amser am flwyddyn. Mae’r cwmni a’r Bartneriaeth bellach yn gweithio ar Gynllun Rheoli ar gyfer 2025-2030 ac yn paratoi ar gyfer Adolygiad Cyfnodol 2029.