
Iaith a diwylliant
Mae diwylliant yn clymu pobl ynghyd ac yn creu cymuned. Mae hefyd yn sail i'n cysylltiad â byd natur.
Mae'n ymwneud ag iaith, y celfyddydau, arferion diwylliannol a llawer mwy, ac mae'n rhan bwysig o waith UNESCO.
Mae Biosffer Dyfi wedi cefnogi prosiectau diwylliannol ers y dechrau ac yn falch o'i dreftadaeth ddwyieithog. Rhestrir rhai o'n prosiectau isod.
Gweler hefyd: lleoedd i ymweld â nhw.

Aberdyfi o Ynys-hir, olew ar banel, gan Nicki Orton
Chwedlau'r Biosffer
Mae Croeso Cymru a Chyngor Sir Powys yn rhoi cymorth grant i ecodyfi i drefnu digwyddiadau i ymwelwyr sy’n tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a bywiogrwydd creadigol yr ardal. Mae manylion a dewisiadau archebu ar gael yma, ynghyd â fideos bach tafod yn y boch.
Cymerau
Bwriad prosiect Cymerau oedd annog cymunedau yn ardal y Borth, Tal-y-bont a’r cyffiniau i gymryd rhan mewn trafodaethau am ddŵr.
Comisiynwyd nifer o artistiaid, wedi’u hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau i weithio â chymunedau dros gyfnod o ddeuddeg mis yn 2015-2016.
