top of page

Pobl ifanc

Mae’r Biosffer eisiau gweld dyfodol disglair i’w bobl ifanc ac maen nhw wastad wedi bod yn rhan bwysig o’n gwaith. Mae'r Grŵp Addysg, er enghraifft, yn annog disgyblion ysgol i ystyried dyfodol y Biosffer a'r cyfleoedd gyrfa y mae'r ardal yn eu darparu. Dyma rai o'n gweithgareddau eraill.

Ti Bia'r Biosffer

Ti Bia'r Biosffer oedd enw prosiect 2021 a ysgogodd entrepreneuriaeth o fewn Biosffer Dyfi drwy hwyluso datblygiad sgiliau a syniadau busnes perthnasol i’r ardal. Arweiniwyd y brosiect gan Menter a Busnes gyda cyllid Cynnal y Cardi.

Cynhyrchodd y brosiect gyfres o fideos byr yn cyflwyno busnesau'r ardal, gan gynnwys Llaeth Teulu Jenkins Milk, Ty Cemaes, Heartwood Saunas, EXEO Energy, Free Range Designs, Atherton Bikes a Dyfi Tannery.​​

Ffermwyr Ifanc

n 2024, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri fe wnaethom gefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc lleol i wneud fideos am eu gwaith yn y Biosffer. Dyma ddau ohonyn nhw, gan glybiau Dinas Mawddwy a Bro Ddyfi.​

bottom of page