Adfer coedwigoedd glaw Celtaidd yn y Biosffer
- dyfibiosphere
- Feb 19
- 2 min read
Updated: Feb 24
Bydd prosiect newydd yn chwilio am fuddion economaidd a lles mewn cynefin coetir arbennig. Darllen yn Saesneg.

Coedwigoedd glaw Celtaidd, neu goedwigoedd glaw tymherus, yw gweddillion y coetir a fyddai wedi gorchuddio llawer o orllewin Prydain ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf. Maent yn gysylltiedig â glawiad uchel a hinsawdd fwyn, ac yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o redyn, mwsoglau, llysiau'r afu, cennau, ffyngau, adar a mamaliaid.
Dros y blynyddoedd maent wedi dioddef o heriau gan gynnwys plannu conwydd, goresgyniad rhywogaethau fel Rhododendron ponticum, a phori gan ddefaid a cheirw, ac maent bellach yn ganolbwynt i brosiectau adfer.
Mae Biosffer Dyfi yn cynnwys sawl ardal o goedwig law, gan gynnwys Coed Cwm Einion, un o ardaloedd gwarchodedig craidd y Biosffer. Mae prosiect newydd wedi’i lansio i’w cysylltu a’u hadfer, tra’n dod â buddion economaidd a lles i’w gymunedau lleol.
Partneriaeth Natur Leol ar y cyd rhwng Awdurdodau Lleol, elusennau, grwpiau cadwraeth a sefydliadau cymunedol yw Prosiect Cymunedau Coedwig Law Geltaidd Bïosffer Dyfi, ac fe’i cynhelir fis Chwefror a Mawrth eleni.
Bydd y prosiect yn archwilio ac yn manteisio ar fuddion amrywiol y Goedwig Genedlaethol i Gymru. Mae’r coedwigoedd glaw Celtaidd lleol yn gartref i fywyd gwyllt prin ac ecosystemau unigryw. Bydd gweithgareddau yn cynnwys archwilio’r coedwigoedd, gwella cynefinoedd, plannu coed a phrysgoedio i gynyddu bioamrywiaeth.
Yn ogystal, bydd hyfforddiant a phrosesu pren ar y safle yn cyflwyno cyfleoedd economaidd lleol. Bydd cymunedau lleol, gan gynnwys plant ac oedolion bregus, yn cael y cyfle i fynd allan i’r goedwig gyda gweithdai llesiant coetir a thrwy wirfoddoli i wneud gwaith cadwraeth.

Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn paratoi’r ffordd ar gyfer partneriaeth weithredol, ehangach yn y tymor hir, gyda gweledigaeth o gydweithredu a fydd o fudd i natur a’r cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod.
Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Peilot Tirwedd Coedwig Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru 2024/2025, a weinyddir gan CGGC.
Cynhelir y prosiect drwy Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion gyda phartneriaid prosiect sy’n cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Coetir Anian, Coed Lleol / Smallwoods, RSPB Ynyshir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a Camu Ymlaen a Gwasanaethau Cymorth Dydd Padarn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â – Fiona Moran, Cynorthwyydd Bioamrywiaeth, Cyngor Sir Ceredigion, Fiona.Moran@ceredigion.gov.uk.
For upcoming public events, training and programmes announcements for this project visit Coed Lleol and Coetir Anian. These include -
Fforio, Tân a Gwledda - Diwrnodau Lles Coetiroedd, Wythnosol yn dechrau Dydd Llun 3 Mawrth 10.30 - 14.30 am 6 wythnos. Gwersyll y Bryniau, ger Pantperthog, Machynlleth. Cysylltwch â - jeanettegray@smallwoods.org.uk
Hyfforddiant Asesu Coedwigoedd Glaw Cyflym, 18 Mawrth, Tre'r-ddôl ger Machynlleth. Cysylltwch ag Awel.Jones@eryri.llyw.cymru
Comments