Biosfferau yn ymgynnull yn Brighton
- dyfibiosphere
- Mar 31
- 1 min read
Bob blwyddyn, mae Biosfferau'r DU ac Iwerddon yn ymgynnull ar gyfer cynhadledd fach. Eleni cynhaliwyd y cyfarfod gan y Living Coast Biosphere, sef llain o arfordir de Lloegr sy’n cynnwys Brighton, Hove a Lewes. Read in English

Trefnwyd y cyfarfod gan Bwyllgor 'Man and the Biosphere' y DU sy’n rhan o Rwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd. Roedd y biosfferau a fynychodd yn cynnwys Ynys Manaw, Ynys Wyth, Galloway a De Swydd Ayr, Wester Ross a Bae Dulyn, gydag eraill yn ymuno ar-lein. Roedd rhai ardaloedd hefyd yn gwneud cais am statws Biosffer, gan gynnwys Doncaster a Fforest y Ddena.
Roedd y cyfarfod yn cynnwys ymweliadau safle â phrosiectau adfer natur (trwy garedigrwydd Brighton and Hove Buses), derbyniad a gynhaliwyd gan Gyngor Dinas Brighton a Hove yn y Pafiliwn Brenhinol a bwyd gan Sussex Surplus a’r Real Junk Food Project.
Roedd llawer i'w drafod gyda'r Biosfferau eraill, o fwyd lleol a gwyddoniaeth dinasyddion, i dwristiaeth ac ymgysylltu â busnes. Menter gyffrous newydd oedd cyfarfod y Fforwm Ieuenctid newydd, y mae Biosffer Dyfi yn falch o fod yn rhan ohono.
Hefyd yn bresennol oedd y cogydd Mauro Colagreco sy'n Llysgennad Ewyllys Da UNESCO yn eiriol dros fioamrywiaeth a bwyd cynaliadwy. Yn ddiweddar roedd wedi trefnu pryd o fwyd gyda chynhwysion o fiosfferau'r DU yn Raffles, Llundain, a oedd yn cynnwys cig oen o Fiosffer Dyfi.
Roedd hefyd yn dda cyfarfod â chydweithwyr o swyddfa UNESCO ym Mharis a llywodraeth y DU, yn ogystal â Chomisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO. Mae dynodiad Biosffer yn gwneud Cymru yn weladwy yn rhyngwladol ac rydym yn gyffrous am yr hyn y gallwn ei gyflawni.

Comentarios