top of page
dyfibiosphere

Blas Dyfi: Dathlu cynaeafau lleol

Mae Biosffer Dyfi yn ymwneud â datblygu cysylltiad ffyniannus rhwng gweithgareddau dynol ac ecosystemau, a does dim byd yn dangos hyn yn well na bwyd. Mae angen inni gynhyrchu hyn o ffermydd, gerddi a physgodfeydd sy’n cael eu rheoli’n dda, ac yn ddelfrydol gerllaw fel y gallwn adeiladu’r cysylltiadau diwylliannol hanfodol sy’n sail i economi iach.


Mae ein prosiect Tyfu Dyfi yn mynd i’r afael â’r her honno mewn ffordd uniongyrchol iawn, trwy hyfforddi mwy o dyfwyr, cefnogi tyfwyr presennol i werthu mwy o lysiau yn y Biosffer a hyrwyddo dulliau agroecolegol. Cefnogir Tyfu Dyfi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae’n rhychwantu awdurdodau lleol Powys a Cheredigion.


Ond mae angen inni hefyd dyfu’r marchnadoedd, ac un ffordd yr ydym yn gwneud hynny yw achrediad Blas Dyfi. Mae hwn ar gael i unrhyw fusnes sy’n ymuno â’r siarter sy’n golygu:

 

  • Mae cynhyrchwyr cynradd yn ymrwymo i ddilyn dulliau agroecolegol

  • Mae proseswyr yn ymrwymo i ddefnyddio cyfran uchel o gynhwysion lleol;

  • Disgwylir i gaffis, gwestai a thai bwyta gynnwys a hyrwyddo cynnyrch lleol, Cymreig a thymhorol.

 

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni rydym wedi gallu cytundebu â mwy o fusnesau i'r cynllun, gan gynnwys sawl un yn Aberystwyth. Mae'r rhain yn cynnwys y siop fwyd cyflawn Maes y Meysydd sy'n gwerthu ystod eang o gynnyrch lleol, a chaffis Y Gornel, Little Devils a Baravin sydd â blas lleol ar eu bwydlenni.


Rhyngddynt maent yn dangos yr amrywiaeth o fwydydd y mae'r ardal yn eu cynhyrchu neu eu prosesu, o Jenkins Milk i jin Distyllfa Dyfi, ac o gigoedd a llysiau i fara, mêl, wyau a choffi. Nid yw hyn oll y tu mewn i ffiniau’r Biosffer, gan fod rhai yn dod o ardaloedd cyfagos Ceredigion, Powys a Gwynedd, neu’n cael eu mewnforio i’w prosesu yma, ond mae llawer iawn ohono.

 

Yna mae yna Hufen Iâ Aberdyfi, sydd â llaethdy yn Aberdyfi ac yn gwerthu trwy eu siopau eu hunain yn Aberdyfi ac Aberystwyth.


Mae'n werth sôn yn arbennig am Hwb Bwyd Dyfi, rhan o Bwyd Dros Ben - Aber - Food Surplus yn Aberystwyth. Siop ar-lein yw hon ar gyfer gwerthu cynnyrch lleol, lle mae cwsmeriaid yn archebu ar-lein unwaith yr wythnos ac yn casglu bocs o fan canolog.


Datblygwyd yr Hwb fel rhan o’n prosiect Tyfu Dyfi a’i ddiben yw darparu marchnad ar gyfer cynhyrchwyr bwyd lleol – yn bennaf ffrwythau a llysiau, ond hefyd cynnyrch llaeth, ac yn fwy diweddar cig a madarch hefyd. Ynghyd â Mach Veg Boxes ym Machynlleth, mae’r Hwb yn ysgogi mwy o dyfu llysiau yn yr ardal. Y mis hwn, fe wnaeth Menna Williams, sy’n ffermio ger Machynlleth ac wedi hyfforddi ar gwrs Llwybrau at Ffermio (rhan o Tyfu Dyfi), gyflenwi ei swp cyntaf o frocoli blagur porffor i gwsmeriaid lleol. Cyflenwr newydd arall yw Madarch Tŷ Cynan Pendinas, ym Mhenparcau.

 

Mae diwylliant bwyd cryf yn hanfodol i gefnogi economi bwyd, ac mae hynny'n mynd y tu hwnt i brynu a gwerthu. Mae’n ymwneud â’r bobl sy’n siopa ac yn eistedd yn y caffis, a hefyd y prydau cymunedol sy’n nodwedd yn Aberystwyth a Machynlleth. Mae’r caffi Talu fel y Teimlwch yn Eglwys Fethodistaidd St Paul yn Aberystwyth yn derbyn bag am ddim gan Hwb Bwyd Dyfi bob wythnos, ynghyd â chynnyrch o Laudato Si a gerddi cymunedol eraill.

 

“Mae garddwyr marchnad ac eraill yn brwydro i wneud bywoliaeth ar hyn o bryd, felly rydyn ni’n cynnig ffordd arall o gael eu cynnyrch allan yna, am bris teg,” meddai Cathie Thurgate, un o weithwyr yr Hwb.

 

“Trwy greu dolen fwyd, gall busnesau yng Ngheredigion a Phowys gefnogi ei gilydd trwy rannu costau cyflenwi a seilwaith, gwerthu i farchnad ehangach a chreu system fwyd leol fwy cysylltiedig a chadarn.”

 

Hoffech chi weld mwy o fwyd a gynhyrchir yn agroecolegol yn yr ardal, a diwylliant bwyd cryfach? Yna cefnogwch y busnesau hyn, cadwch lygad am eraill sy’n ffermio ac yn tyfu mewn ffyrdd ecogyfeillgar, ac ymwelwch â’r marchnadoedd lleol.


Lluniau: Tyfu Dyfi, Menna Williams

32 views1 comment

1 comentario


andyrows
4 days ago

Da iawn gyfeillion

Me gusta
bottom of page