top of page
  • dyfibiosphere

Blychau nythu ar gyfer gwenoliaid duon



Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Gwenoliaid Duon ac mae gwaith y Biosffer eisoes wedi ymddangos ar Galwad Cynnar Radio Cymru, diolch i Brosiect Gwenoliaid Duon Biosffer Dyfi sydd yn cael ei arwain gan Elfyn Pugh, heddwas wedi ymddeol, a’r ffotograffydd a’r cadwraethwr Ben Porter.


“Dechreuodd y cyfan yn 2019, pan ddatganodd Cyngor Tref Machynlleth argyfwng hinsawdd, a daeth trigolion ynghyd i weld beth y gallem ei wneud yn ei gylch,” meddai Elfyn. “Erbyn 2021, gyda rhywfaint o help gan ecodyfi ar ran Biosffer Dyfi, roedd gennym ein 20 bocs cyntaf.”


Mae’r blychau’n bwysig oherwydd nid oes gennym ni’r coed hynafol a oedd gennym ni bellach, gyda’u tyllau cnocell y coed a oedd yn cael eu meddiannu gan yr adar yn y gorffennol. Mae adeiladau modern yn dueddol o gyflwyno arwyneb llyfn i'r byd - yn dda ar gyfer inswleiddio a chynnal a chadw, ond ddim cystal i adar.


“Mae ein Bocsys Gwenoliaid Duon yn seiliedig ar ddyluniad safonol o’r enw Model Zeist 30,” meddai Elfyn. “Mae angen i’r blychau fynd yn eithaf uchel i fyny, o leiaf 4.5 metr, ac ar waliau sy’n wynebu’r gogledd a’r dwyrain yn ddelfrydol, fel nad ydyn nhw’n gorboethi yn haul canol dydd a dechrau’r prynhawn. Mae gwenoliaid duon yn ffyddlon i safle nythu sefydledig felly unwaith y byddant wedi nythu, bydd pâr o wenoliaid duon yn dychwelyd i'r un blwch yn union bob blwyddyn. Felly mae angen iddyn nhw fod yn hirhoedlog iawn.”


Erbyn 2022 roedd rhyw 100 o focsys wedi eu gosod, o Dywyn i Garno, ac o Fryncrug i Aberystwyth. Mae cyllid ar gyfer y prosiect wedi dod oddi wrth Elusennau Garthgwynion, Parc Gwyliau Garth, Clwb Rotari Machynlleth, Ymddiriedolaeth Margaret Owen, Swift Conservation, ac unigolion.


Wrth gwrs, nid yw rhoi blwch nythu i fyny yn unrhyw sicrwydd y bydd gwenoliaid duon yn dod o hyd iddo. “Efallai bydd chwarter y bocsys yn cael eu cymryd gan wenoliaid duon ac fe all gymryd sawl blwyddyn cyn iddyn nhw gael eu meddiannu, ond yn aml fe gewch chi adar y to ac yn anaml iawn gwenoliaid y bondo yn lle,” eglura Elfyn. “Y pwynt yw ein bod ni’n rhoi help llaw i’r gwenoliaid duon, ac mae pobl yn ymateb yn gryf i hynny.”


Mae gan dechnoleg fodern lawer i'w gynnig yma. Bydd teclyn sy'n chwarae galwad gwennol ddu, wedi'i osod yn y blychau, yn denu'r benywod, a gobeithio yn ei dro yn dod â gwrywod go iawn i mewn hefyd. Mae ap yr RSPB swiftmapper yn caniatáu i’r cyhoedd mapio’r adar yr ydynt yn eu gweld. Ac yn ogystal â blychau nythu, mae ‘brics gwenoliaid duon’ ar gael sydd yn wag gyda thwll mynediad, y gellir eu hymgorffori mewn adeiladau newydd neu adeiladau wedi’u hadnewyddu.


Mae mapio'r gwenoliaid duon yn arbennig o bwysig er mwyn gwybod lle i osod y blychau. Eleni fe osodon nhw 17 o focsys y tu allan i Archfarchnad Coop ym Machynlleth, gyda 32 o siambrau nythu, gan ddewis y safle hwnnw oherwydd bod gwenoliaid duon eisoes yn nythu dros y ffordd. Nawr byddant yn monitro'r blychau, a fydd yn brosiect hirdymor, gyda chyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan.


“Rydyn ni eisiau i Brosiect Blychau’r Gwenoliaid Duon Co-op Machynlleth ysgogi trafodaeth a sgwrs am wenoliaid duon a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu yn y cyfnod modern,” meddai Elfyn. “Rydym angen ymdrech genedlaethol i ddarganfod ble mae gwenoliaid duon yn nythu, ac yna cefnogi’r ardaloedd hynny gyda mwy o focsys, felly mae’n hanfodol ymgysylltu â’r cyhoedd.”


Mae gweithio gydag ysgolion yn fenter newydd gyffrous ar gyfer y prosiect, a gynhaliodd sesiwn yn ddiweddar ar gyfer y Pwyllgor Eco yn Ysgol Uwchradd Llanidloes mewn cydweithrediad â Phrosiect Llanidloes Gwenoliaid Duon sydd newydd ei ffurfio. Casglodd y disgyblion ddwsin o focsys at ei gilydd, ac mae’r blychau hyn i’w gosod ar dir yr ysgol yn ogystal ag eiddo eraill yn Llanidloes.


“Maen nhw’n dysgu gwaith coed yn ogystal ag ecoleg ac mae hynny’n magu eu hyder,” meddai Elfyn. “Dywedais wrthyn nhw: ‘Chi yw rheolwyr ein planed yn y dyfodol. Gallai gwenoliaid duon ddiflannu yn ystod eich oes. Gallwch chi i gyd wneud gwahaniaeth, gallwch chi i gyd fod yn rhan o’r ateb’. “


Prif lun: Bob Relph ac Elfyn Pugh yn hysbysebu'r brosiect ym Machynlleth wythnos ddiwethaf.

5 views0 comments
bottom of page