top of page
Search

Cofnodi dau ddegawd o waith amgylcheddol ym Machynlleth: archifo ecodyfi

  • dyfibiosphere
  • Feb 21
  • 2 min read

Wrth i ecodyfi fynd yn Fiosffer Dyfi, mae ei gofnodion yn mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Darllen yn Saesneg

Andy Rowland gyda myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Spencer Voss ac Emma Jones
Andy Rowland gyda myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Spencer Voss ac Emma Jones

Wrth i ecodyfi newid ei enw i fod yn Biosffer Dyfi, mae tîm o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn didoli ei gofnodion i'w rhoi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Disgwylir i’r ymarfer archifo hwn gysylltu â phrosiect ar draws y DU o’r enw Oral History of the Environmental Movement sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Royal Holloway Llundain.


“Mae’r cofnodion yn cwmpasu cyfnod pwysig o’r mudiad amgylcheddol yng Nghymru, ac mae ein myfyrwyr, sydd oll yn astudio ar gyfer ein gradd MA mewn Archifau a Rheoli Cofnodion, yn ennill profiad proffesiynol gwerthfawr trwy eu paratoi ar gyfer cadwraeth barhaol,” meddai Dr Sarah Higgins, Uwch Ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth.


Sefydlwyd ecodyfi ym 1998 gan unigolion o Gyngor Sir Powys, Dulas Ltd a llawer o bartneriaid eraill gyda’r nod o gryfhau’r economi leol drwy amrywiaeth o weithgareddau arloesol. Roedd y rhain i gynnwys twristiaeth gynaliadwy, ynni cynaliadwy a lles, tra'n dod â phobl ynghyd a datblygu ymdeimlad o le.


O 2009, bu ecodyfi hefyd yn dal ysgrifenyddiaeth Biosffer Dyfi UNESCO,. Wrth i Andy Rowland, rheolwr gyfarwyddwr ecodyfi ers y dechrau, ymddeol y llynedd, penderfynodd Bwrdd ecodyfi fuddsoddi ei arian wrth gefn i gyflogi staff i ddatblygu'r Biosffer, a newidiodd y cwmni ei enw i Biosffer Dyfi.


“Rydym yn falch iawn bod blynyddoedd o wasanaeth Andy i’r gymuned leol wedi gadael ecodyfi mewn sefyllfa dda iawn ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar hynny wrth i ni ddatblygu Biosffer Dyfi,” meddai Martin Ashby, Cyd-Gadeirydd Bwrdd y Biosffer.


“Rydym yn ddiolchgar iawn i Andy ac ecodyfi am eu holl waith ar y Biosffer, yr unig un yng Nghymru,” meddai Jane Powell, cyn Gadeirydd y bartneriaeth Biosffer sydd gyda James Cass wedi cymryd yr awenau wrth gydlynu. “Mae hwn yn gyfnod heriol ac mae’n dda bod yn rhan o UNESCO gyda’i rwydwaith rhyngwladol o ddysgu ac ymchwil.”

 

 
 
 

Comments


bottom of page