top of page
dyfibiosphere

Croesawu Waunfawr a Chomins Coch i'r Biosffer gyda digwyddiadau bywyd gwyllt

Updated: Aug 13

Rhan bwysig o’n gwaith i adfywio Biosffer Dyfi, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru acan UNESCO UK, fu croesawu’r cymunedau newydd a ymunodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ymhlith y rhain mae Cyngor Cymuned Faenor ar gyrion Aberystwyth, sy’n fwy adnabyddus fel Waunfawr a Chomins Coch.



Cysylltwyd y ddau bentref yn ddiweddar gan lwybr ar gyfer cerdded a seiclo, (rhan o gynllun 'Teithio Llesol' y Llywodraeth. Fis diwethaf, defnyddiwyd y llwybr fel lle dysgu i blant Ysgol Comins Coch, gan iddynt esgus bod yn swyddogion UNESCO a gweld beth oedd yn cymhwyso’r ardal fel Biosffer.


"Fe wnaethon ni eu hysgogi gyda thaflen waith a oedd yn gofyn iddyn nhw chwilio am fannau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio, cynefinoedd a ffynonellau bwyd ar gyfer bywyd gwyllt ac i bobl. Fe wnaethon nhw hefyd sylwi ar ffynonellau ynni fel tyrbinau gwynt ac ystyried sut y byddai'r llwybr cyd-ddefnyddio newydd o fudd i'r gymuned, pobl leol a'r Biosffer cyfan," meddai Fiona Moran o Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion.


"Ar y daith yn ôl buom yn siarad am fonitro natur gan ddefnyddio samplu ar hap i amcangyfrif bioamrywiaeth rhywogaethau planhigion ar hyd y llwybr. Yn olaf, yn ôl yn yr ysgol, fe wnaethom ymchwilio i fioamrywiaeth ar dir yr ysgol, gan ddefnyddio hela bwystfilod bach a samplu cwadrat ar y cae. Fe wnaethom hefyd siarad am ddefnydd tir a blasu rhywfaint o fêl, llaeth a ffrwythau a gynhyrchwyd yn lleol.”


Y diwrnod canlynol, arweiniodd Milly Jackdaw, un o drigolion Waunfawr ac yn storïwraig, ‘Dathlu Bywyd Gwyllt Waunfawr’, digwyddiad i bob oed yn Neuadd Gymunedol Waunfawr a fynychwyd gan tua 25 o bobl, o blant bach i henoed. Roedd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion yn bresennol yn y digwyddiad hwn hefyd, gan gynnal cymhorthfa i drigolion, tra bod Carys May o Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru yn arwain saffari bywyd gwyllt yn y gymdogaeth.


Dilynwyd hynny gan de a chacen, cwis natur gyda choed afalau yn wobrau, cyfnewidiad planhigion ac adrodd straeon yn ymwneud â natur gan Milly. Iddi hi, dod â’r gymuned at ei gilydd oedd y man cychwyn.


“Mae gan Waunfawr lawer o drigolion oedrannus, llawer ohonynt yn byw ar eu pen eu hunain, felly mae cyfleoedd i gwrdd ag eraill yn yr ardal leol yn drysor go iawn,” esboniodd. “Roedd hefyd yn gyfle gwych i roi gwybod i bobl am y gwaith sy’n cael ei wneud dros fywyd gwyllt yr ardal ac i ennyn diddordeb a chyfranogiad. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ffaith bod yna bobl o bob oed ac roedd rhywbeth i bawb ei fwynhau.”


Mae hi'n bwriadu gwneud mwy o gysylltiadau gyda thrigolion eraill, a hyrwyddo trafodaethau bywyd gwyllt, pan fydd y Neuadd yn dechrau sesiynau cymdeithasol prynhawn Gwener yn rheolaidd ym mis Medi.


I Rachel Auckland o’r Bartneriaeth Natur yn y cyfamser roedd gan y digwyddiad fuddion proffesiynol, gan ganiatáu iddi gysylltu ag arweinwyr cymunedol lleol a thrafod cyflwr bywyd gwyllt yr ardal.


“Mae mor bwysig i ni ddangos y gall Cynghorau Tref a Chymuned, pwyllgorau neuaddau pentref ac yn y blaen ddod atom am gyngor ar eu dyletswydd i ofalu am fioamrywiaeth, a gallwn roi gwybod iddynt am gyfleoedd ariannu.


“Dyma’r tro cyntaf i mi gael cyfle i gael golwg iawn ar y Cyflwyniad i Adnabod Bywyd Gwyllt sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer Partneriaeth Natur Leol Ceredigion gan Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru ac mae’n wych ei weld ar waith, gan godi ymwybyddiaeth o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd gwerthfawr sydd gan bobl ar garreg eu drws.”


Mae creu mannau lle gall pobl gysylltu â’i gilydd a’r byd naturiol yn ganolog i rôl y Biosffer. Tynnodd y ddau ddigwyddiad hyn ar rwydweithiau Ceredigion, ond mae’r Biosffer hefyd yn gysylltiedig â rhwydweithiau ym Mhowys a Gwynedd, yn ogystal â Biosfferau eraill o amgylch y DU ac yn fyd-eang. Drwy rannu’r dysgu hwnnw, gallwn adeiladu cysylltiadau cryfach rhwng pobl a’r lleoedd y maent yn byw ynddynt.


Ariannwyd y gweithgareddau hyn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

10 views1 comment

1 Comment


andyrows
Jul 30

Da iawn pawb!

Like
bottom of page