top of page
dyfibiosphere

Rhoi ffermio yn ôl yng nghanol bywyd

Prif brosiect Biosffer ar hyn o bryd yw Tyfu Dyfi, sy'n datblygu'r system fwyd lleol trwy gynyddu'r cyflenwad o lysiau a ffrwythau a chynyddu'r galw. Isod, mae aelodau staff Ann Owen a Robin Llewellyn yn trafod datblygiadau. Read in English.


Diwrnod chwynnu tatws

Ym mhentref Darowen yng Nghanolbarth Cymru, mae chwyldro tawel ar y gweill. Mae dau ffermwr yn tyfu cnydau llysiau ar raddfa cae ar gyfer y farchnad leol, er nad oes gan yr un ohonynt unrhyw brofiad personol o wneud hynny. Gyda chefnogaeth ymarferol gan deulu, ffrindiau a phobl leol eraill, cafodd caeau eu haredig, a phlannwyd tatws, bresych a chennin.

Mae gan ffermwyr mynydd amserlen brysur, sy'n cael ei yrru gan anghenion wyna a chneifio, ac wedi'u cyfyngu gan fympwyon tywydd Cymru. Ychwanegwch y chwynnu cyson sydd ei angen ar ôl i ffermwr anifeiliaid roi’r hyn sydd wedi bod yn borfa ers hanner canrif yn ôl o dan yr aradr, ac mae problem amser a llafur yn cynyddu.


two people standing in front of a tractor
Chris Higgins ac Ann Owen o brosiect Tyfu Dyfi yn plannu tatws

Ond eleni mae'r gymuned wedi camu i'r adwy, gan gyrraedd y safle gyda menig garddio, hoe, a brwdfrydedd diddiwedd, ac yn gyffrous i helpu i gadw'r cnydau sy'n dod i'r amlwg yn rhydd o'r pibydd coesgoch, ysgall, a chwyn eraill a oedd yn bygwth eu tagu. Trwy wneud hyn maent wedi cefnogi amaethyddiaeth amrywiol a fu’n holl bwysig ar y dirwedd hon ar un adeg, a rhoi hwb i’r economi bwyd lleol, sydd yn wobr yn ei hun, fel y gwnaeth ailgynnau cysylltiad personol â’r pridd. Nid oedd y cinio gwych a ddarparwyd gan y ffermwr i'r gweithwyr ond yn ychwanegu at y teimlad o bositifrwydd a rennir gan pawb.


I ba raddau y gellir parhau’r math hwn o gymorth ar raddfa fawr, neu a oes ffyrdd eraill y gall y gymuned gynorthwyo amaethyddiaeth drosiannol neu â ffocws lleol, yn gwestiwn pwysig o ystyried pwysau’r gwaith y mae ffermwyr dano. Fel Gwarchodfa Biosffer UNESCO, gallwn ddysgu oddi wrth y teulu byd-eang o warchodfeydd biosffer sy’n gweithredu fel ‘lleoedd dysgu ar gyfer datblygu cynaliadwy’, ac mae gan lawer ohonynt fodelau cymdeithasol sydd wedi’i sefydlu ers amser hir o gefnogi amaethyddiaeth yn ystod cyfnodau prysur y flwyddyn ffermio.


Yng Ngwarchodfa Biosffer Puracé UNESCO, yng Ngholombia, er enghraifft, mae’r gymuned yn cynorthwyo gyda thasgau llafur trwm am lond llaw o ddiwrnodau yn ystod y flwyddyn, boed hynny’n frechu gwartheg, clirio ffosydd, neu ffensio. Y traddodiadau brodorol hyn yw’r arferiad a elwir yn “minga” sef y gair sy'n deillio o'r Q'echua “minka”, a ddiffinnir fel “cyfarfod ffrindiau a chymdogion i gydweithio'n rhydd gyda’i gilydd,” neu “i gwblhau gwaith amaethyddol ar y cyd ac yn rhydd er lles pawb”.


Ffermwyr ym Miosffer Purace, Colombia

Mae’r arferiad wedi’i fabwysiadu’n eang gan gymunedau anfrodorol cyfagos, sy’n gweld sut mae rhannu gwaith o’r fath, sy’n canolbwyntio ar bryd o fwyd gwych i bawb, yn clymu’r gymuned ynghyd ac yn ailsefydlu cysylltiad â’r tir. Gellir ei weld fel cefnder pellgyrhaeddol i’r gefnogaeth gymdogol arferwyd yma sy’n aml yn clymu aelwydydd at ei gilydd yn ystod ŵyna a chneifio, sy’n hanfodol i’n lles ac mae hefyd yn rhannu elfennau ag Amaethyddiaeth â Chymorth Cymunedol, neu CSA (Community Supported Agriculture).


Datblygwyd CSA o amgylch y syniad y byddai'r gymuned yn cefnogi “eu” ffermwr gyda thasgau oedd angen dwylo ychwanegol, fel gwaith maes, gweinyddu, marchnata ac ati. Yn gyfnewid, byddai'r ffermwr yn tyfu'r cynnyrch yr oedd ei gymuned ei eisiau. Fel arfer byddai ymrwymiad ariannol; byddai'r aelodau'n prynu cyfran o'r cynhaeaf trwy dalu ffi flynyddol benodol, am hyn byddent wedyn yn derbyn cyfran wythnosol o ba bynnag gynnyrch y llwyddodd y ffermwr i’w dyfu. Mae hyn yn golygu sicrwydd ariannol i'r ffermwr a rhannu'r risgiau ag aelodau'r CSA, boed yn newyn neu'n wledd. Ar hyn o bryd mae mwy na 200 o CSA’s traddodiadol yn y DU gyda llawer mwy yn mabwysiadu fersiynau gwahanol o'r model.


Pa bynnag ffordd y bydd datrysiad yn digwydd boed yn ddiwrnodau chwynnu anffurfiol,  neu weld faint o bobl sy'n cyrraedd ar un diwrnod, i drefn  ffurfiol sy'n rhannu gwaith a gwobrau, maent yn rhoi olew i olwynion y trawsnewid o gnydau ungnwd i ddulliau ffermio amrywiol.


Yn Nhyfu Dyfi rydym yn gweithio i hwyluso'r arbrofion hyn ac i adrodd y straeon hyn. Rydym yn cefnogi nifer fach dewr o ffermwyr Cymru sy’n barod i roi cynnig ar dyfu cnydau llysiau ar raddfa cae. Mae’n gyfnod o ddysgu heriol, ond gyda chymorth y gymuned leol, nid oes rhaid i ffermwyr wneud y daith hon ar eu pennau eu hunain, a gwybod unwaith eto eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel darparwyr y tri phryd y dydd yr ydym i gyd yn hoff o’u bwyta.

22 views0 comments

Comments


bottom of page