Sgwrs am yr hinsawdd
Ffermio, cymunedau gwledig a’r dyfodol
Dydd Llun 16 Rhagfyr 2024, 11-2
Tywydd eithafol, sicrwydd bwyd, bywyd gwyllt: mae’r rhain yn bryderon i bob un ohonom, ac mae angen inni eu hwynebu gyda’n gilydd.
Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau gyda thaith gerdded o amgylch Moelgolomen, fferm ucheldir organig ger Talybont. Mae’r fferm wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol ar reoli llifogydd, plannu coed a gwrychoedd ac annog bywyd gwyllt, a hefyd yn gwerthu cig yn uniongyrchol i’r cyhoedd.
Wedi hynny, bydd trafodaethau yn parhau dros ginio mewn tafarn leol. Mae croeso i unrhyw un sy'n ymwneud â ffermio, cefn gwlad a chymunedau gwledig ond mae archebu lle yn hanfodol. I fynegi diddordeb, e-bostiwch ni.
Cefnogir y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru.