top of page

Sut mae Biosffer Dyfi’n gweithio

Mae Biosffer Dyfi yn cael ei redeg gan gwmni cyfyngedig trwy warant nid-er-elw, a elwid gynt yn ecodyfi.

 

Mae ganddo ddau aelod o staff rhan-amser a bwrdd cyfarwyddwyr.

Caiff ei gweithgareddau eu cyfarwyddo gan Bartneriaeth a'u cyflawni gan lawer o sefydliadau ac unigolion.

Tra bod gan gyfarwyddwyr y cwmni gyfrifoldeb cyfreithiol am redeg y Biosffer o ddydd i ddydd, y Bartneriaeth sy'n gosod y cyfeiriad a'r blaenoriaethau. Daw’r Partneriaid o’r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol, busnesau a thrigolion lleol, ac maent yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Maent yn goruchwylio’r holl weithgareddau, gan adrodd i UNESCO drwy Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Llywodraeth Cymru. Ariennir yr Ysgrifenyddiaeth gan bartneriaid y sector cyhoeddus yn eu tro.

Mae’r Cyfarfod Blynyddol yn agored i bawb sydd â diddordeb ym Miosffer Dyfi – i dderbyn adroddiadau, i drafod beth sy’n digwydd ac i ddweud eu dweud.

Mae llawer o waith Biosffer Dyfi yn cael ei wneud gan bobl yn dod at ei gilydd i ddilyn eu diddordebau cyffredin. Mewn rhai achosion, maent yn ffurfio grwpiau neu rwydweithiau thematig, megis Addysg, Iechyd Awyr Agored, Twristiaeth ac Ymchwil. Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy.

Partneriaid sy'n ariannu ysgrifenyddiaeth y Biosffer:​

funding partner logo block.png
bottom of page