
Swyddi a gwirfoddoli
Mae Biosffer Dyfi UNESCO yn croesawu gwirfoddolwyr i helpu ein tîm bach i gyflawni ei gynlluniau. Allech chi helpu? Anfonwch linell atom yn dyfibiosphere@gmail.com os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni.
Rydym hefyd yn croesawu eich gwaith celf a ffotograffau.
Cydlynydd Prosiect - Gwenoliaid a dwr (Screams and Streams)
Tri diwrnod yr wythnos am bedwar mis yn dechrau ganol mis Ebrill
Mae Biosffer Dyfi ochr yn ochr â grwpiau gwirfoddol, Lab Dŵr Dyffryn Dyfi a Phrosiect Gwennol Ddu Biosffer Dyfi, yn cynnig cyfle cyffrous i weithio ar brosiect ymchwil yn Nyffryn Dyfi i weld a oes cysylltiad rhwng niferoedd gwenoliaid a’n hafonydd.
Wedi ein lleoli yn swyddfeydd Biosffer Dyfi ac allan yn nalgylch Bro Ddyfi, rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect brwdfrydig sydd wrth ei fodd yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan Grŵp Prosiect a byddwch yn cyflawni amrywiaeth o dasgau megis monitro a chofnodi data yn ystod ymweliadau grŵp, cysylltu â chymunedau lleol, trefnu hyfforddiant, ysgrifennu blogiau, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ysgrifennu adroddiad canfyddiadau.
I wneud cais, edrychwch ar ddisgrifiad y swydd ac anfonwch eich ceisiadau erbyn y 6ed o Ebrill at info@ecodyfi.cymru gan ddweud wrthym pam y byddech chi'n wych yn y gwaith hwn, trwy baru eich sgiliau a'ch profiad, gyda'r nodweddion hanfodol a dymunol yn y disgrifiad swydd - uchafswm o 1,000 o eiriau. Unrhyw gwestiwn gyrrwch at yr un e-bost.
Byddwn yn cynnal cyfweliadau anffurfiol cyfeillgar ar y 10fed o Ebrill, ym Miosffer Dyfi, Y Plas, Machynlleth a byddwn yn hapus i gyfweld tu allan neu yng Nghaffi’r Plas, os ydych yn teimlo y byddai hyn yn amgylchedd gwell i’n helpu i ddod i’ch adnabod.
Ariennir yr ymchwil hwn gan y Bartneriaeth Arloesedd Polisi Lleol.