



Dyma hafan Tyfu Dyfi – Tyfu’r economi bwyd lleol. Dechreuodd Tyfu Dyfi yn 2023 gan ddod i ben fis Rhagfyr 2024.
Wedi’i ariannu gan Gynghorau Sir Powys a Cheredigion drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF), nod y prosiect oedd cyfrannu at drosglwyddo i system fwyd a fydd yn gynaliadwy dros gannoedd o flynyddoedd. Y gwerthoedd a hyrwyddir yw cynwysoldeb, tegwch, cyfiawnder cymdeithasol, ac agroecoleg.
Rydym yn datblygu system fwyd leol ardal Biosffer Dyfi: yn bennaf drwy gynyddu’r cyflenwad a’r galw am fwyd a dyfir yn lleol – llysiau a ffrwythau yn arbennig. Er enghraifft, gan:
-
Ddosbarthu arian i dyfwyr a ffermwyr lleol i’w helpu i dyfu mwy – cawsom alwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb yn gynnar yn 2024 (bellach wedi cau).
-
Gwerthu mwy o gynnyrch drwy’r hwb bwyd ar-lein – Hyb Bwyd Dyfi.
-
Treialu gwasanaeth casglu a dosbarthu
-
Hyfforddi a mentora cynhyrchwyr bwyd garddwriaethol newydd
-
Creu cyfleoedd cadarnhaol ar gyfer sgyrsiau, ee, rhwng ffermwyr, garddwyr marchnad, y gymuned leol
Mae'r fideo hwn yn rhoi trosolwg o hanner Powys o'r prosiect, gyda Menna Williams, tyfwr llysiau, a Blwch Llysiau Mach.
Mae’r prosiect SPF hwn yn ddilyniant uniongyrchol o Tyfu Dyfi – bwyd, natur a lles – prosiect dwy flynedd wedi’i gwblhau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cliciwch YMA os mai Tyfu Dyfi – bwyd, natur a lles ydyw y mae gennych ddiddordeb pennaf ynddo.
Partneriaid Prosiect
Roedd Tyfu Dyfi yn gydweithrediad rhwng ecodyfi, Aber Food Surplus a Criw Compostio.
"Mae ei brosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth Cynghorau Sir Powys a Cheredigion"
