Prosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) yw Tyfu Dyfi - prosiect bwyd, natur a lles.
Mae'n dechrau ym Medi 2021, ac yn rhedeg tan 30ain Mehefin, 2023. Y partneriaid yw: ecodyfi (arweinydd), Bwyd Dros Ben Aber Food Surplus, Mach Maethlon, Canolfan Technoleg Amgen, Prifysgol Aberystwyth, Fforwm Cymunedol Penparcau, Garden Organic.
Mae'r prosiect peilot hwn yn ymwneud â dangos sut y gall cymunedau fod yn rhan o'u systemau bwyd lleol a chyfrifo'r buddion lluosog sydd ynghlwm a hynny.
Mae bwyd yn mynd ar daith o gymhlethdod amrywiol o gynhyrchu i fwyta neu waredu. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar systemau bwyd lleol Cymru a'r cyfleoedd i bobl gymryd mwy o ran ar gamau priodol yn y cylch bywyd. Bydd yr holl dasgau sy'n cynnwys tyfu yn dilyn egwyddorion amaethecolegol /agroceological ac yn cael eu cynllunio i gyfrannu at seilwaith gwyrdd.
Y syniad yw darparu enghraifft genedlaethol sy'n dangos sut y gall sawl sefydliad gydweithredu ar systemau bwyd lleol i ysgogi cynhyrchwyr, defnyddwyr a chymunedau mewn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol megis mynd i'r afael â thlodi, gwella lles, newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.
Prif fuddsoddiadau arfaethedig:
-
Hyfforddiant mewn tyfu – ar gyfer bwyd, bywyd gwyllt, lles ac i wella’r amgylchedd. Cynyddu nifer y safleoedd tyfu yn yr ardal
-
Datblygu’r farchnad ar gyfer bwyd a gynhyrchir yn lleol, e.e., trwy integreiddio hwb bwyd rhithwir ar-lein gyda mannau gwerthu ffisegol, trwy frandio, trwy archwilio dull ecosystem bwyd lleol
-
Digwyddiadau coginio cymunedol
-
Nifer fach o dreialon maes ar raddfa fawr gyda ffermwyr sydd â diddordeb mewn datblygu modelau amaethecolegol / agroecolegol o ffermio cynaliadwy gan gynnwys agwedd gymdeithasol
-
Cysylltu ag addysg: ysgogi cenedlaethau'r dyfodol mewn ysgolion, cynnal ymchwil angenrheidiol i rannu gwybodaeth yn effeithiol
-
Prydlesu ychydig o dir gerllaw ardal breswyl a sefydlu menter amaethyddol a arweinir gan y gymuned
Fel y nodwyd uchod, mae gan Tyfu Dyfi rai adnoddau ar gael i gefnogi datblygiad system fwyd leol fwy gwydn a chynaliadwy. Mae gwahanol ffyrdd y gall pobl gymryd rhan; os oes gennych ddiddordeb ewch i'r dudalen hon i gael mwy o wybodaeth.
Fel rhan o brosiect Tyfu Dyfi, mae grŵp ‘Treialon Graddfa Maes’ wedi’i sefydlu i ehangu’r ystod cnydau lleol. Mae Katie Hastings yn disgrifio sut mae’r mudiad cymunedol Mach Maethlon wedi bod yn gweithio gyda thyfwyr lleol i dreialu cnydau newydd a newid y dirwedd fwyd leol… YMA.
Mynegi diddordeb i weithio gyda Tyfu Dyfi
Newyddion am brosiect Tyfu Dyfi
Diddordeb i dderbyn newyddion am brosiect Tyfu Dyfi a chyfleon gwirfoddoli?
Os hoffech gadw mewn cysylltiad gyda chyfleon gwirfoddoli neu newyddion arall am y prosiect yna gallwch gofrestru i dderbyn llythyr newyddion drwy fynd i'r wefan yma.
Rydym wedi bod yn ceisio canfod ffordd o rannu’r cyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd gyda phawb ar draws y Biosffer. Mae'n cymryd gormod o amser i anfon e-byst sy'n rhestru sesiynau gwirfoddoli bob wythnos, yn enwedig gan fod llawer o sesiynau yn sesiynau wythnosol rheolaidd ac nid oes gennym restr gynhwysfawr o bobl â diddordeb yn hyn yn y Biosffer.
Mae datblygu’r farchnad ar gyfer bwyd a gynhyrchir yn lleol drwy integreiddio hwb bwyd rhithwir ar-lein gyda mannau gwerthu ffisegol a thrwy frandio yn bwysig – gweler Blas Dyfi
Gwledda
Prosiect peilot cymunedol yng Ngheredigion, oedd Gwledda ddaeth â chymunedau ynghyd i dyfu ac i rannu bwyd, i ddysgu am yr amgylchedd a materion sy’n effeithio ar newid hinsawdd, bywyd gwyllt ayb, ac i wisgo’r holl beth yn y celfyddydau, gan rannu straeon, caneuon, dawns gwaith crefft ayb. Gyda’r bwriad o gynnal dathliad dan y sêr ar y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Ngheredigion yn haf 2022.
Y bwriad oedd paratoi Astudiaeth Ddichonoldeb, gyda Chydlynydd yn bwydo’r Astudiaeth hon.
Roedd y gwaith yn cynnwys:
1. Archwilio 'ardaloedd targed' yng Ngheredigion: Mapio mannau gwyrdd a chymunedau, a dod o hyd i randiroedd a gerddi cymunedol addas (presennol). Gofynwyd i’r Cydlynydd gydweithio gyda’r cyrff sydd eisoes yn ymwneud â’r maes hwn, ac wrthi’n paratoi adroddiadau fel rhan o waith Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Ceredigion.
2. Nodi partneriaethau lleol ar gyfer y prosiect: Ymchwilio a datblygu rhwydweithiau cymunedol, a meithrin perthnasoedd newydd, gan hefyd fanteisio ar bartneriaethau sy’n bodoli eisoes.
3. Datblygu rhaglen o weithgarwch arfaethedig: Creu cynllun gweithredu ar gyfer y Rhaglen gyda rhai o’r prif bartneriaid (gan gynnwys elfennau artistig, amgylcheddol a garddio/tyfu bwyd) a chytuno ar linell amser ymarferol.
– gweler linc i dudalen Clonc Gwledda a Fidio Gwledda a chyfansoddiad can gan Lisa Angharad a'r geiriau gan Hywel Griffith
Gwledda
Fe ddewn ni at y pridd i fwrw beichiau,
a’u troi a’u trin a’u trafod gyda ffydd,
ac wedi rhoi y fforch a’r rhaw i gadw,
gadawn yn ysgafnach ddiwedd dydd.
Mi ddewn ni at blodau’n y basgedi,
a’u cyfarch nhw fel ffrindie bore oes,
cael bwrw bol a holi’u hanes hwythe,
heb boeni y cawn unrhyw eirie croes…
Mae mwy ‘na gardd yma inni i gyd,
ni’n wreiddiau bach yn rhan o ardd y byd,
mae mwy o waith i’w wneud yma o hyd,
mae hi’n fwy na gardd i ni i gyd.
Plannwn flode gyda’r llysie yn y gornel,
mi ddewn nhw i gyd mewn dim i wneud eu rhan,
y dail yn cadw’r pridd rhag llosg yr heulwen,
a gwarchod y petalau yn y man.
Fel hwythe fe ddewn ninne at ein gilydd,
y blagur mân yng nghysgod dail y coed,
a thyfu yn anniben am fod border
a chwysi bywyd pawb yn gam erioed.
Mae mwy ‘na gardd yma inni i gyd,
ni’n wreiddiau bach yn rhan o ardd y byd,
mae mwy o waith i’w wneud yma o hyd,
mae hi’n fwy na gardd i ni i gyd.
Mi ddewn ag egni mawr ein cyfeillgarwch,
mi ddewn mewn dillad gwaith yn gwisgo gwên,
i blannu ac i fedi gyda gofal,
i fod yn rhan o gylch y ddaear hen.
Mi ddewn er lles ein hunain a’r gymuned
er lles y bancie bwyd i lawr y stryd,
mi ddewn ers lles y ddaear gron oherwydd
ym mhob un newid bach mae newid byd.
Mae mwy ‘na gardd yma inni i gyd,
ni’n wreiddiau bach yn rhan o ardd y byd,
mae mwy o waith i’w wneud yma o hyd,
mae hi’n fwy na gardd i ni i gyd.